ElsbethJONESGorffennaf 20ed. 2025 yn sydyn ond yn dawel yn Ysbyty Eryri, Caernarfon, yn 80 mlwydd oed ac o Lleifior, Rhos Isaf. Merch y diweddar Wil a Nellie, chwaer y diweddar Dewi, chwaer yng nghyfraith Myra, cyfneither, modryb a hen fodryb annwyl a ffrind hoffus iawn i bawb oedd yn ei hadnabod. Bydd colled fawr ar ei hol.
Angladd ddydd Iau, Awst 28ain. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Horeb, Rhostryfan am 1.00 y prynhawn ac i ddilyn yn gyhoeddus ym Mynwent Rhosgadfan.
Blodau'r teulu yn unig, ond derbynnir yn ddiolchgar roddion er cof am Elsbeth i'w rhannu rhwng Cronfa Sefydliad Prydeinig y Galon a Changen Bangor o'r Samariaid naill ai ar y plat offrwm yn y Capel neu drwy law yr ymgymerwr. (Sieciau yn daladwy i H.J..Jones. Donations Account os gwelwch yn dda)
Ymgymerwr Huw John Jones, Glanrafon, Pontllyfni, Caernarfon, Gwynedd. LL54 5ER Ffon 01286 660365
Keep me informed of updates
Add a tribute for Elsbeth